Gwenllian Davenport
Gweithdai ~ Workshops
Yn ochr ac ochr â’m hymarfer creu, rwy’n hwyluso, cynllunio a chyflwyno gweithdai a phrosiectau creadigol sy’n canolbwyntio ar gymuned. Drwy bartneriaeth hirdymor gyda Peak Cymru, rwyf wedi datblygu a chyflwyno sesiynau gyda phobl ifanc mewn ystod eang o leoliadau, gan greu mannau cefnogol ar gyfer arbrofi, cydweithio a gwneud ymarferol.
Yn fwy diweddar, rwyf wedi gweithio fel rhan o dîm ymgysylltu Artes Mundi 11, yn ogystal â phrosiectau blaenorol gyda Institute of Making, Creative Cardiff a Blaenau Gwent Positive Futures. Mae’r profiadau hyn wedi fy ngalluogi i weithio gydag amrywiaeth eang o gyfranogwyr, gan addasu gweithdai i weddu i wahanol oedrannau, galluoedd a chyd-destunau.

Blaenau Gwent Positive Futures 2026 Zine
With a focus on making and process-led approaches, my workshops encourage curiosity, play and material exploration. My facilitation practice is rooted in place-responsive and community-focused approaches, often working bilingually through Cymraeg and English to create accessible and culturally connected creative experiences.
Through print, publishing, textiles and collaborative making, I support participants to experiment with materials, develop confidence and engage creatively with ideas, place and shared experience.
Alongside my making practice, I facilitate, design and deliver community-orientated workshops and creative projects. Through a long-standing partnership with Peak Cymru, I have developed and delivered sessions with young people across a range of settings, creating supportive spaces for experimentation, collaboration and hands-on making.
More recently, I have worked within the engagement team for Artes Mundi 11, alongside previous projects with Institute of Making, Creative Cardiff,Credu and Blaenau Gwent Positive Futures. These experiences have allowed me to work with a wide range of participants, adapting workshops to suit different ages, abilities and environments.

Blaenau Gwent Positive Futures 2026
Gyda ffocws ar ddulliau gwneud ac archwilio sy’n cael eu harwain gan broses, mae fy ngweithdai’n annog chwilfrydedd, chwarae ac ymchwilio drwy ddefnydd o ddeunyddiau. Mae fy ymarfer hwyluso wedi’i wreiddio mewn dulliau sy’n ymateb i le a chymuned, gan weithio’n ddwyieithog drwy’r Gymraeg a’r Saesneg i greu profiadau creadigol hygyrch sydd â chysylltiad diwylliannol a lleol.
Trwy brint, cyhoeddi, tecstilau a chreu cydweithredol, rydw i’n cefnogi cyfranogwyr i arbrofi gyda deunyddiau, datblygu hyder ac ymgysylltu’n greadigol â syniadau, lle a phrofiadau a rennir.

AM11 Family Drop-in Workshop 2026
© 2026 Gwenllian Davenport